Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 203(9) o Ddeddf Cynllunio 2008 i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU  

Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 107 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn darparu bod iawndal yn daladwy pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd gan awdurdod cynllunio lleol yn cael ei ddirymu neu ei addasu ar ôl hynny. Mae adran 108 o'r Ddeddf yn estyn yr hawl hon i gael iawndal i amgylchiadau pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 108 fel y mae'n gymwys i Gymru.

Mae diwygiad i is-adran (2A) o adran 108 yn darparu ar gyfer sefyllfa lle y mae caniatâd cynllunio o ddisgrifiad rhagnodedig a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl drwy ddyroddi cyfarwyddiadau o dan y pwerau a roddwyd gan y gorchymyn hwnnw. Canlyniad y diwygiad yw mai dim ond os yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a ganiatawyd gynt drwy'r gorchymyn hwnnw yn cael ei wneud o fewn 12 mis i'r dyddiad y daeth y cyfarwyddiadau'n effeithiol y bydd iawndal yn daladwy.

Mae diwygiadau i is-adrannau (3B) a (3C) yn darparu, pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu wedi ei dynnu'n ôl, ni fydd unrhyw hawl i gael iawndal:

(i) pan fo caniatâd wedi ei roi ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad rhagnodedig;

(ii) pan fo'r caniatâd yn cael ei dynnu'n ôl yn y dull rhagnodedig; a

(iii) pan fo hysbysiad am y tynnu'n ôl yn cael ei gyhoeddi heb fod yn llai na 12 mis, a heb fod yn hwy na'r cyfnod rhagnodedig, cyn i’r tynnu'n ôl ddod yn effeithiol.

24 mis yw'r cyfnod rhagnodedig (gweler isod).

Os cychwynnir y datblygiad cyn i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi, bydd iawndal ar gael onid yw'r gorchymyn o dan sylw yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu cwblhau'r datblygiad ar ôl i'r caniatâd gael ei dynnu'n ôl.

Yn yr un modd, pan fo caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl, mae diwygiadau i is-adrannau (3B) a (3D) yn darparu na fydd unrhyw hawl i gael iawndal pan fo hysbysiad o'r tynnu'n ôl yn cael ei gyhoeddi heb fod yn llai na 12 mis, a heb fod yn fwy na'r cyfnod rhagnodedig, cyn i’r tynnu'n ôl ddod yn effeithiol. Os cychwynnir y datblygiad cyn i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi, bydd iawndal ar gael eto onid yw'r gorchymyn o dan sylw yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu cwblhau'r datblygiad ar ôl i'r caniatâd gael ei dynnu'n ôl.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio adran 108(6) er mwyn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi  drwy reoliadau mewn perthynas â Chymru:

(i)  mathau o ddatblygiad y mae adran 108 yn gymwys iddynt;

(ii) drwy ba ddull y mae caniatâd cynllunio i gael ei dynnu'n ôl;

(iii) drwy ba ddull y mae hysbysiad am y tynnu'n ôl i gael ei gyhoeddi; a

(iv) drwy ba ddull y mae hysbysiad am y tynnu'n ôl neu am ddirymu, diwygio neu gyfarwyddo i gael ei roi, a’r cyfnod hwyaf ar gyfer rhoi hysbysiad o’r fath ar ôl i’r caniatâd gael ei dynnu’n ôl.

Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pwerau hyn ac wedi rhagnodi'r holl faterion uchod yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Iawndal) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/*** (Cy.***)). 24 mis yw'r cyfnod rhagnodedig ar gyfer is-adrannau (3C) a (3D) y cyfeiriwyd atynt uchod.

Diwygiodd adran 189 o Ddeddf Cynllunio 2008 adran 108 mewn perthynas â Lloegr. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n cyfateb i adran 189. Effaith y Gorchymyn hwn, felly, yw bod yr hawl i gael iawndal pan fo gorchmynion datblygu neu orchmynion datblygu lleol yn cael eu tynnu'n ôl yr un fath yng Nghymru ag y mae eisoes yn Lloegr. Mae'r newid hwn yn cael ei wneud drwy hepgor o adran 108 y darpariaethau penodol a oedd yn ymwneud â Lloegr fel bod yr adran yn gymwys yn yr un modd i Gymru a Lloegr. 

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Gorchymyn hwn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.org.uk.


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 203(9) o Ddeddf Cynllunio 2008 i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                         31 Ionawr 2012

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(1) a (6) o Ddeddf Cynllunio 2008([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 203(9) o'r Ddeddf honno gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012.

(2) Daw i rym ar 31 Ionawr 2012.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([2]).

Darpariaethau mewn perthynas â Chymru

2. Yn adran 108([3]) o'r Ddeddf (iawndal am wrthod neu roi caniatâd cynllunio amodol a roddwyd gynt drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol)—

(a)     yn is-adran (2A)(a) hepgorer “in England”;

(b)     yn is-adran (2A)(b) hepgorer “in England”;

(c)     yn is-adran (3C)(a) hepgorer “in England”;

(ch)  yn is-adran (3D) hepgorer paragraff (a);

(d)     yn is-adran (6), ar ôl “Secretary of State”, mewnosoder “in relation to England and the Welsh Ministers in relation to Wales,”.

 

Enw

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2008 p. 29.

([2])           1990 p. 8.

([3])           Diwygiwyd adran 108 gan adran 40 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a chan adran 189 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.